Gwrando ar albym newydd Large Plants (project Jack Sharp o’r band Wolf People) sy newydd ddod ma's ar #GhostBox, ac mae llawer mwy at fy nant na'r albym cyntaf dan yr enw. Feibs gwerin asidaidd wledig.
Mae tipyn o feinyl/CDs #GhostBox ar werth yn adran sêl @LogoFiasco - dyma'r unig siop records dw i'n nabod sy ar y Ffedisawd, felly dw i'n trial eu cefnogi.
Oes rhagor?
Mae @ClayPipeMusic yma hefyd, a dw i'n tueddu prynu popeth maen nhw'n rhoi ma’s, ond cyd-ddigwyddiad yw hwnna!
New in - Belbury Poly. A departure for Jim Jupp, The Path features a full band and the poetic writings of Justin Hopper, and the result is an album that takes the familar hauntological soundscapes deep into the realms of psych-rock and acid folk.
Setlo lawr i roi gwrandawiad go iawn i hwn am y tro cyntaf ers iddo gyrraedd. Mae Cate Brooks yn mynd yn ôl at ddyddiau cynnar #GhostBox gyda ei halbym diweddaraf fel #TheAdvisoryCircle, sy’n esbonio'r teitl, mae'n debyg.