Eisiau copi newydd o Greatest Hits Vol. 2 sy wedi mynd yn rhy gam i’w chwarae ar un ochr. Ac mae angen copiau o’r ddau albym cyntaf rywdro, ond dw i’n fodlon aros nes iddyn nhw ymddangos mewn siop elusen.
Wedi dechrau ar yr AC/DC ac mae temtasiwn i “lenwi’r bylchau” yn y casgliad yn gryfach o lawer. Sut dw i heb gael gafael ar Highway to Hell na Back in Black yn y 43 o flynyddoedd diwetha?
Dw i’n trial cofio dod â records lawr stâr bob dydd — mae trwch y casgliad yn byw yn y stafell sbâr, ar silfoedd Ikea, gyda rhyw 200 LP ar bwys y stereo yn y lolfa — felly dyma’r pigiadau ar gyfer heddi.
Dau glasur dw i’n nabod yn dda, a dau sy’n eitha newydd ond sy wedi diflannu i’r storfa cyn i fi ddod i’w nabod nhw’n iawn.
Llwyth o #feinyl ail-law o siop elusen yn Aberteifi, ac am brisiau rhesymol am unwaith - £5 yr un am Monk a Steely Dan, £2 am y Bud Powell a dim ond punt am y Traffic, sy’n mewn cyflwr eitha gwael, ond gawn ni weld…
Nôl at y casgliad o feinyl #ClayPipe, a ffefryn arall, sef “Adlestrop” #GilroyMere (Pipe 025). Mae'r albym wedi'i seilio ar gerdd o'r un enw gan #EdwardThomas, a'r trac yma'n cynnwys y gerdd yn ei ghyfanrwydd.
Un o’r pethau newydd (er mai ail-ryddhad yw hwn) ges i o @LogoFiasco yr wythnos diwetha, a dim ond nawr yn setlo lawr i'w wrando. Swnio'n wych ar y stereo mawr. Ces i'r fersiwn “Cymylau Duon”, sy'n bert iawn.
Record newydd yn y post ddoe, ac mae’n hymdingar. Dw i’n pendwmpian fy ffordd trwyddo, gan mod i ar ddihun ers 4.00, ond mae’n berffaith fel cyd-ymdeithiwr ym myd y breuddwydion.