Wedi ffeindio fe braidd yn ddryslyd "darllen" tair nofel (llyfr go iawn, e-lyfr, llyfr sain) yr un pryd oedd â bach gormod mewn cyffredin; ill tair yn storiau am fenyw ifanc, nail ai yn y person cynta, neu'r trydydd person cyfyngedig; roedd bod ym mhen tair menyw wahanol, gyda lleisiau/personaliaethau unigryw, ond gyda thipyn mewn cyffredin, yn ormod i'r dyn bach digon cyfyngedig ei ddychymig hwn!
Newydd gael fy e-lyfr cyntaf o Lyfrgell Ceredigion, ac roedd yn broses hynod o hawdd. Mae’n well ‘da fi ddarllen llyfrau go iawn fel rheol, ond doedd dim copi caled o’r hwn gyda nhw, felly es i am y fersiwn digidol.
Dim angen ap arbennig, darllen yn y porwr. Perffaith.
Fy “nod darllen” eleni yw i gadw lan â’r llyfrau newydd a cheisio clirio rhywfaint o’r pentwr “i’w darllen” - ond dyma’r stwff sy wedi cyrraedd y tŷ yr wythnos hon.
Caiff y Campbell aros (ffeindiais i fe yn Oxfam ddoe, rhy dda i’w adael) ond hoffwn i ddarllen popeth arall yma erbyn diwedd y mis.
Llyfr #46 am y flwyddyn yw'r casgliad hwn o straeon byrion gan #DingLing, llyfr wnes i etifeddu ar ôl i hen ffrind wneud bach o waith clirio yn ei thŷ, ac un oedd hi wedi’i astudio yn y coleg yn yr 80au.
Mae sawl stori yn lled hunan-gofiannol, ond wedi’u sgwennu mewn adeg pan oedd dweud yn gwir yn blwmp ac yn blaen yn beth peryg, felly mae gwybod rhywbeth am hanes yr awdur yn werthchweil.
Heb orffen llyfr #45 eto, ond newydd ddod i ben â’r nofel gynta yn y gyfrol hon. Tro cyntaf i fi ddarllen straeon Von Bek, er i fi ddarllen tipyn o #MichaelMoorcock fel crwt. Wedi herio fy hun i ddarllen yr holl gyfres yma o “Hanes y Pencampwr Tragwyddol”, ond yn ara deg. Mae 14 o gyfrolau mawr, a dim ond y 3 cynta sy ‘da fi ar y silff
Llyfr #43 eleni - prynais i hwn diolch i hwb gan dad yr awdur, @AngleseyStick.
Digon hawdd ffeindio’r ffordd mewn iddo gan fod hanes brwydr yr iaith Gymraeg yn gyfarwydd, ond roedd y darnau ar iaith frodorol Hawai’i, a’r ffordd mae llywodraeth Tsieina yn gorchfygu ymdrechion i amddiffyn ieithoedd “lleiafrifol” (rhai gyda degau o filiynau o siaradwyr) yn wyneb goruchafiaeth Putonghua (yr iaith Fandarin) yn agoriad llygaid.