dyfrig, Welsh
@dyfrig@toot.wales avatar

Ar fîn dechrau Mori gan Ffion Dafis. Mae'r arolygon yn wych, edrych mlaen i weld os yw'n byw fyny i'r hype! https://www.ylolfa.com/products/9781800991064/mori

nic,
@nic@toot.wales avatar

@dyfrig diolch, o’n i’n trial penderfynu pa lyfr i'w gael o'r llyfrgell nesa, Mori amdani!

dyfrig,
@dyfrig@toot.wales avatar

@nic Mae fe'n edrych yn wych! Fi'n dechrau arni nawr, gad i mi wybod beth ti'n meddwl amdani!

nic,
@nic@toot.wales avatar

@dyfrig wedi dechrau heddi, joio hyd yn hyn. Hoffi ei hardull chwaraeus

dyfrig,
@dyfrig@toot.wales avatar

@nic Mae'n chwaraeus iawn yntydi! Mae hi yn bendant yn joio creu a dylunio cymeriadau. Dwi 100 o dudalennau mewn ar y foment, a does gen i ddim syniad beth rwy'n meddwl o unrhyw un!

dyfrig,
@dyfrig@toot.wales avatar

@nic Newydd gorffen y nofel - mae'n digon tywyll! Eithaf cwl bod nofel Cymraeg yn delio gyda themau mor dywyll. Sa i' siwr os taw joio yw'r gair, ond gobeithio bod e'n ddarlleniad difyr!

nic,
@nic@toot.wales avatar

@dyfrig Colli amynydd braidd erbyn y diwedd, rhaid dweud. Falch mod i wedi darllen, ond bach yn rhy anobeithiol i fi.

dyfrig,
@dyfrig@toot.wales avatar

@nic Roedd e yn hynod o dywyll, a roeddwn i'n gallu gweld y diwedd yn dod gyda cwarter y llyfr ar ôl. Ond mae'n grêt bod llenyddiaeth Gymraeg yn dechrau delio da'r fath bynciau (er byddai fi ddim eisiau pob nofel i fod fel hwn)

  • All
  • Subscribed
  • Moderated
  • Favorites
  • cymru
  • kavyap
  • thenastyranch
  • ethstaker
  • osvaldo12
  • mdbf
  • DreamBathrooms
  • InstantRegret
  • magazineikmin
  • Youngstown
  • khanakhh
  • Durango
  • slotface
  • rosin
  • cubers
  • JUstTest
  • everett
  • cisconetworking
  • tacticalgear
  • ngwrru68w68
  • Leos
  • GTA5RPClips
  • normalnudes
  • modclub
  • tester
  • anitta
  • megavids
  • provamag3
  • lostlight
  • All magazines