Llwyth o #feinyl ail-law o siop elusen yn Aberteifi, ac am brisiau rhesymol am unwaith - £5 yr un am Monk a Steely Dan, £2 am y Bud Powell a dim ond punt am y Traffic, sy’n mewn cyflwr eitha gwael, ond gawn ni weld…
Mae'r John Barleycorn yn swnio’n hyfryd hyd yn hyn. Mae tipyn o sŵn wyneb, ond record sy wedi’i chwarae a’i fwynhau yw hwn, nid un sy wedi’i gam-drin. Ambell i grafiad bach, di-ddim. Os bydd popeth cystal â'r traciau cyntaf, dyma'r bunt orau dw i wedii gwario ers meityn.
Wel, dyw e ddim mewn cyflwr drwg o gwbl, dim sgipiadau, dim ond bach o glindarddach sy ddim yn amharu, hyd yn oed yn narnau tawel y record. Bargen yr wythnos!
Mae'r Steely Dan mewn cyflwr ardderchog, bron dim nam ar y feinyl o gwbl. Gwasgiad hwyrach, labeli MCA o 1980. Prin iawn ti'n gweld pethau fel hyn yn siopau elusen Aberteifi.
Gwrando ar Bud! nawr - mae e mewn cyflwr da, felly ges i fargen arall yma a £2. Fel wedes i, dw i ddim yn gwybod lot am jazz, felly braidd yn synnu bod ei lais mor amlwg ar y recordiad. Mae’n eitha distracting, mwy na Glenn Gould na Keith Jarrett, dau bianydd arall oedd yn canu grwndi wrth ganu'r piano.
Add comment