@nic roedd Domesday Book (pandemig, yn y 21eg Ganrif, yn Rhydychen) yn...agos at y bôn i mi, rhaid dweud, ond llyfr gwych. Mae hwn yn ysgafnach ac yn hwyl fawr - er mae hi'n gallu bod yn prescient iawn, Queen Camilla...!!!
@gwenynen newydd gyrraedd, edrych ymlaen - dylwn i gael mwy o’r gyfres Gollancz ‘na, dw i wastad yn joio, a wnes i ddarllen bron dim SFF yn y 90au/2000oedd
@nic Dwi ar ganol 'Sgythia' gan Gwynn ap Gwilym, a 'Gladiatrix' gan Bethan Gwanas - dwi'n mwynhau nofelau hanesyddol, ac mae'r ddwy yma'n dda. Dechreuais Gladiatrix, sy fod yn YA dwi'n meddwl, i weld os yw'n addas i'm merch 13 oed, ond dydi o ddim!
@rhysw dw i ond yn nabod GapG am y flodeugerdd wnaeth e olygu gyda Alan Llwyd, mae cymaint o farddoniaeth Gymraeg yn terra incognita i fi o hyd.
Wedi dweud hynny, wnes i ddechrau pori hen Gyfansoddiadau’r Eisteddfod bwynoson, a chael blas ar feirniadaeth Waldo ar gystadleuaeth y Gadair yn 1967! Meddwl am sgwennu rhywbeth amdano yn y man…
@rhysw ydy’r Gwanas yn addas i bobl mewn oed? Cofia ei chlywed hi’n siarad am yr angen am lyfrau ‘cyffrous, a chyrhaeddadwy’, a wnaeth hi sôn pryd hynny bod hi’n gweithio ar syniad ‘Games of Thrones-aidd’ - ai dyma beth yw’r Gladiatrix ‘ma?
@nic dwi yr un fath efo barddoniaeth. Prynais hen gopi o Dail Pren gan Waldo yn siop ail law Aberteifi ac yn mynd trwyddo'n araf. Edrychaf ymlaen i ddarllen am y Cyfansoddiadau
dwi wedi mwynhau'r rhai prin dwi wedi'u darllen. Credu mai Cyfres y Melanai oedd canlyniad gwaith BG, tair nofel fyddai, o bosib, yn fwy addas i oed fy merch. Heb eu darllen, ond mae Llwyth a Gwrach y Gwyllt yn swnio fel nofelau ar themâu nid anhebyg.
Add comment